Gemau Paralympaidd Haf PARIS 2024

Canlyniadau

Dewch i adnabod yr athletwyr

Rhwng nawr a dechrau’r Gemau Paralympaidd, byddwn yn rhannu cyfweliadau unigryw gyda’n Paralympiaid o Gymru:

Bonne Chance en France:

Darganfyddwch mwy am yr athletwyr o Gymru a fydd yn cynrychioli ParalympicsGB ym Mharis yr haf hwn:

Chwaraeon gyda chynrychiolaeth o Gymru ym Mharis 2024

Ewch i Gwefan ChAC

Profile of Sabrina Fortune

Sabrina Fortune

Chwaraeon

Athletau // F20 Shot Put

Dyddiad Geni

25 / 05 / 1997

O

Yr Wyddgrug

Mae Sabrina yn mynd i’w hail Gemau Paralympaidd yn syth ar ôl ennill ei thrydedd deitl byd yn olynol yn y F20 Shot Put a hefyd yn torri record y byd gyda tafliad o 14.73m.

Dechreuodd Sabrina ei thaith chwaraeon yn 11 oed pan ymunodd â chlwb athletau yng Ngogledd Cymru a dechreuodd gystadlu mewn twrnameintiau lleol yn 2008.

Roedd ei daith drwy’r llwybr perfformiad yn gyflym. Yn 2014 enillodd fedal aur yng Ngemau Ysgolion Paralympaidd Brasil yn São Paulo a chymerodd ran yn ei Grand Prix IPC cyntaf yn Grosseto, yr Eidal.

Y flwyddyn ganlynol dewiswyd Sabrina ar gyfer Tîm Prydain Fawr a gorffennodd yn bedwerydd ym Mhencampwriaethau Athletau’r Byd IPC yn Doha – canlyniad a ailadroddodd yn Grosseto yn 2016.

Enillodd Sabrina efydd ar ei ymddangosiad cyntaf yn y Gemau Paralympaidd yn Rio yn 2016, cyn dod yn bencampwraig Ewropeaidd yn 2018 ac yn bencampwraig y Byd am y tro cyntaf yn 2019.

Erbyn hyn roedd Sabrina yn taflu yn agos iawn at y marc 14-metr –roedd ei thafliad Pencampwriaeth y Byd yn Dubai yn 13.91 medr. Cyflawnodd y tirnod 14 metr ym Mhencampwriaethau Para Athletau’r Byd 2023 ym Mharis gyda thafliad o 14.01m – pellter a chwalodd yn ddiweddar ym Mhencampwriaethau Para Athletau’r Byd 2024 yn Japan!

I ymlacio, mae Sabrina yn mwynhau celf 3D creadigol, pobi a threulio amser gyda'i chi Sparky.

Uchafbwyntiau Gyrfaoedd

Gemau Paralympaidd

  • 2021 - 5ed, (Tokyo, Japan)
  • 2016 - Efydd, (Rio, Brasil)

Pencampwriaethau'r Byd

  • 2024 - Aur, (Kobe, Japan)
  • 2023 - Aur, (Paris, Ffrainc)
  • 2019 - Aur, (Dubai, Emiradau Arabaidd Unedig)
  • 2017 - 6ed, (Llundain)
  • 2016 - 4ydd, (Grosseto, yr Eidal)
  • 2015 - 4ydd , (Doha, Qatar)

Pencampwriaethau Ewropeaidd

  • 2018 - Aur, (Berlin, yr Almaen)
  • 2016 - 4ydd, (Grosseto, yr Eidal)

Twrnameintiau Mawr Eraill

  • 2020 – 5ed, Pencampwriaethau Dan Do Prydain
  • 2019 - Arian, Pencampwriaethau Cymru
  • 2018 - Arian, Pencampwriaethau Cymru
  • 2017 - Arian, Pencampwriaethau Cymru
  • 2016 - Efydd, Gemau Paralympaidd yr Haf
  • 2014 - Aur, Gemau Paralympaidd Ysgolion Brasil

Cymryd Rhan


Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan Sabrina a diddordeb mewn darganfod mwy am sut i gymryd rhan mewn Athletau, ewch i:








#Ysbrydoli


Ydych chi erioed wedi meddwl am yr hyn y gallai eich potensial fod?

Ydych chi dros 9 oed, ac efo nam corfforol, synhwyraidd neu ddeallusol?


Os gallwch ateb yn gadarnhaol i bob un o'r cwestiynau hyn, yna byddai'r tîm Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru yn awyddus i glywed oddi wrthych.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi ymfalchïo ar ei lwyddiant mewn digwyddiadau chwaraeon anabledd mawr, gan ennill mwy o fedalau y pen nag unrhyw wlad arall, ac yr ydym am y llwyddiant i barhau, ond gall hyn ond digwydd drwy ddod o hyd y genhedlaeth nesaf o athletwyr talentog yn barhaus ac yn eu meithrin i gyrraedd eu llawn botensial. Ni fydd pawb sydd â nam eisiau fod yn athletwr gorau yn y byd, ond dylai pawb o leiaf cael y cyfle i roi cynnig.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru eisiau clywed gan bob unigolyn sy'n chwilio i gael gwybod beth y gallai eu potensial fod o fewn chwaraeon, hyd yn oed os nad ydych erioed wedi gwneud chwaraeon cyn neu hyd yn oed os ydych yn edrych ar drosglwyddo i un newydd.

Rydym am i chi gysylltu â ni drwy lenwi'r ffurflen #ysbrydoli:

Cwblhewch ffurflen #Ysbrydoli