Gemau Paralympaidd Haf PARIS 2024

Canlyniadau

Dewch i adnabod yr athletwyr

Rhwng nawr a dechrau’r Gemau Paralympaidd, byddwn yn rhannu cyfweliadau unigryw gyda’n Paralympiaid o Gymru:

Bonne Chance en France:

Darganfyddwch mwy am yr athletwyr o Gymru a fydd yn cynrychioli ParalympicsGB ym Mharis yr haf hwn:

Chwaraeon gyda chynrychiolaeth o Gymru ym Mharis 2024

Ewch i Gwefan ChAC

Profile of Phil Pratt

Phil Pratt

Chwaraeon

Pêl-fasged Cadair Olwyn // 3.0

Dyddiad Geni

02 / 02 / 1994

O

Caerdydd

Bydd Phil yn gapten ar garfan Pêl-fasged Cadair Olwyn Prydain Fawr y Gemau Paralympaidd ym Mharis wrth i’r athletwr 30 oed anelu at lwyddiant Tîm Dynion yn y Gemau Paralympaidd.

Rhoddodd Phil gynnig ar lawer o wahanol chwaraeon yn ifanc ac roedd yn rhagori mewn tennis cadair olwyn. Gyda chydlyniad llaw-llygad gwych, buan iawn y cafodd ei restru ymhlith y tri uchaf yn y byd dan 18. Ond yr agwedd tîm o bêl-fasged cadair olwyn yr oedd yn ei fwynhau'n fwy a dyna oedd newid ei lwybr chwaraeon.

Gwnaeth Phil ei ymddangosiad cyntaf efo Tim Prydain Fawr yn Nhîm B y Dynion yn y Standard Life Continental Clash 2012 ac ychydig fisoedd yn ddiweddarach roedd yn gludwr baner yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012. Yna gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i dîm cyntaf Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau’r Byd 2014 yn Ne Korea, cyn dod yn bencampwyr Ewropeaidd Tîm Dynion am y tro cyntaf yn 2015 ac yna gwneud ei ymddangosiad Paralympaidd cyntaf yn 2016.

Ar ôl ennill arian ym Mhencampwriaethau Ewropeaidd 2017, bu Phil yn gapten ar Prydain Fawr i’r fedal aur ym Mhencampwriaethau’r Byd 2018 yn Hamburg, gyda’r chwaraewr a aned yng Nghaerdydd yn ychwanegu 12 pwynt a 12 yn cynorthwyo i’r sgôr wrth iddynt guro Tîm UDA yn y rownd derfynol.

Yn 2019 helpodd Phil Tim Prydain Fawr i deitl Pencampwriaeth Ewropeaidd arall. Roedd yn gyd-gapten tîm Dynion Prydain Fawr a enillodd arian ym Mhencampwriaethau’r Byd 2022 (chwaraewyd yn 2023) ac hefyd enwyd yn yr ‘All-Star Five’ y Dynion.

Mae Phil yn chwarae i dîm Amiab Albacete yn Sbaen, sef Pencampwyr pêl-fasged cadair olwyn Ewrop.

Uchafbwyntiau Gyrfaoedd

Gemau Paralympaidd

  • 2016 - Efydd, Tîm Dynion (Rio, Brasil)

Pencampwriaethau'r Byd

  • 2022 - Arian, Tîm Dynion (Dubai, Emiradau Arabaidd Unedig)
  • 2018 - Aur, Tîm Dynion (Hamburg, yr Almaen)
  • 2014 - 7fed, Tîm Dynion (Incheon, De Korea)

Pencampwriaethau Ewropeaidd

  • 2021 - Arian, Tîm Dynion (Madrid, Sbaen)
  • 2019 - Aur, Tîm Dynion (Poznan, Gwlad Pwyl)

Cymryd Rhan


Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan Phil a diddordeb mewn darganfod mwy am sut i gymryd rhan mewn Pêl-fasged Cadair Olwyn, ewch i:








#Ysbrydoli


Ydych chi erioed wedi meddwl am yr hyn y gallai eich potensial fod?

Ydych chi dros 9 oed, ac efo nam corfforol, synhwyraidd neu ddeallusol?


Os gallwch ateb yn gadarnhaol i bob un o'r cwestiynau hyn, yna byddai'r tîm Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru yn awyddus i glywed oddi wrthych.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi ymfalchïo ar ei lwyddiant mewn digwyddiadau chwaraeon anabledd mawr, gan ennill mwy o fedalau y pen nag unrhyw wlad arall, ac yr ydym am y llwyddiant i barhau, ond gall hyn ond digwydd drwy ddod o hyd y genhedlaeth nesaf o athletwyr talentog yn barhaus ac yn eu meithrin i gyrraedd eu llawn botensial. Ni fydd pawb sydd â nam eisiau fod yn athletwr gorau yn y byd, ond dylai pawb o leiaf cael y cyfle i roi cynnig.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru eisiau clywed gan bob unigolyn sy'n chwilio i gael gwybod beth y gallai eu potensial fod o fewn chwaraeon, hyd yn oed os nad ydych erioed wedi gwneud chwaraeon cyn neu hyd yn oed os ydych yn edrych ar drosglwyddo i un newydd.

Rydym am i chi gysylltu â ni drwy lenwi'r ffurflen #ysbrydoli:

Cwblhewch ffurflen #Ysbrydoli