Gemau Paralympaidd Haf PARIS 2024

Canlyniadau

Dewch i adnabod yr athletwyr

Rhwng nawr a dechrau’r Gemau Paralympaidd, byddwn yn rhannu cyfweliadau unigryw gyda’n Paralympiaid o Gymru:

Bonne Chance en France:

Darganfyddwch mwy am yr athletwyr o Gymru a fydd yn cynrychioli ParalympicsGB ym Mharis yr haf hwn:

Chwaraeon gyda chynrychiolaeth o Gymru ym Mharis 2024

Ewch i Gwefan ChAC

Profile of Hollie Arnold

Hollie Arnold MBE

Chwaraeon

Athletau // F46 Gwaywffon

Dyddiad Geni

26 / 06 / 1994

Mae Hollie Arnold yn mynd i'w phumed Gemau Paralympaidd ar ffurf syfrdanol, ar ôl ennill ei chweched teitl byd yn olynol yn y waywffon F46 ym Mhencampwriaethau Para-athletau'r Byd yn Kobe, Japan.

Taflodd Hollie’r waywffon am y tro cyntaf ar ddiwrnod gyntaf digwyddiad athletau o’r enw ‘Star Track yn 2006’, ac mae’n cofio bod y waywffon “yn ymddangos fel petai’n teithio’n eithaf pell”.

Ychydig a wyddai ar y pryd bydd y foment yn newid ei bywyd!

Dim ond tair blynedd yn ddiweddarach, Hollie yn 14 oed a 74 diwrnod, oedd yr athletwr maes ieuengaf erioed i gystadlu yn y Gemau Paralympaidd. Taflodd pellter personol orau a gorffen ychydig y tu allan i'r 10 uchaf mewn categori cymysg yn Beijing. Yn fwy arwyddocaol, yng Ngemau 2008 syrthiodd Hollie mewn cariad â'r waywffon, ac o'r eiliad honno ymlaen mae hi wedi ymroi i fod yn brif athletwr y byd yng nghategori F46 gwaywffon.

Yn fuan ar ôl i’w theulu symud i Gymru i ganiatáu i Hollie fynychu Coleg Ystrad Mynach er mwyn elwa ar y rhaglenni a’r cyfleusterau hyfforddi o safon fyd-eang ym Mhrifysgol Met Caerdydd.

Ac fe weithiodd yr hyfforddiant, oherwydd yn 2010 enillodd Hollie arian ym Mhencampwriaeth Iau y Byd IWAS ac aur yn yr un twrnamaint flwyddyn yn ddiweddarach.

Enillodd Hollie ei theitl byd cyntaf yn Lyon yn 2013, aur yn y Gemau Paralympaidd yn Rio yn 2016 (gyda thafliad i dorri record y byd) a daeth yn bencampwr Ewropeaidd a Gemau’r Gymanwlad yn 2018 – gan dorri record y byd eto ar yr Arfordir Aur.

Fe wnaeth y rhediad o lwyddiant eithriadol wneud Hollie y taflwr gwaywffon cyntaf i ddal pob un o'r pedwar prif deitl yn yr un cylch pedair blynedd Paralympaidd/Olympaidd.

I gydnabod ei llwyddiannau chwaraeon ysbrydoledig, dyfarnwyd MBE i Hollie yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2017, ac yn 2020 ymddangosodd ar ITV I’m a Celebrity…Get Me Out of Here!

Uchafbwyntiau Gyrfaoedd

Gemau Paralympaidd

  • 2021 - Efydd (Tokyo, Japan)
  • 2016 - Aur (Rio, Brasil)
  • 2012 - 5ed (Llundain)
  • 2008 – 11eg (Beijing, Tsieina)

Gemau'r Gymanwlad

  • 2018 - Aur (Arfordir Aur, Awstralia)

Pencampwriaethau'r Byd

  • 2024 - Aur (Kobe, Japan)
  • 2013 - Aur (Paris, Ffrainc)
  • 2019 - Aur (Dubai, Emiradau Arabaidd Unedig)
  • 2017 - Aur (Llundain)
  • 2015 - Aur (Doha, Qatar)
  • 2013 - Aur (Lyon, Ffrainc)

Pencampwriaethau Ewropeaidd

  • 2018 - Aur (Berlin, yr Almaen)
  • 2012 - Arian (Stadskanaal, yr Iseldiroedd

Cymryd Rhan


Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan Hollie a diddordeb mewn darganfod mwy am sut i gymryd rhan mewn Athletau, ewch i:








#Ysbrydoli


Ydych chi erioed wedi meddwl am yr hyn y gallai eich potensial fod?

Ydych chi dros 9 oed, ac efo nam corfforol, synhwyraidd neu ddeallusol?


Os gallwch ateb yn gadarnhaol i bob un o'r cwestiynau hyn, yna byddai'r tîm Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru yn awyddus i glywed oddi wrthych.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi ymfalchïo ar ei lwyddiant mewn digwyddiadau chwaraeon anabledd mawr, gan ennill mwy o fedalau y pen nag unrhyw wlad arall, ac yr ydym am y llwyddiant i barhau, ond gall hyn ond digwydd drwy ddod o hyd y genhedlaeth nesaf o athletwyr talentog yn barhaus ac yn eu meithrin i gyrraedd eu llawn botensial. Ni fydd pawb sydd â nam eisiau fod yn athletwr gorau yn y byd, ond dylai pawb o leiaf cael y cyfle i roi cynnig.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru eisiau clywed gan bob unigolyn sy'n chwilio i gael gwybod beth y gallai eu potensial fod o fewn chwaraeon, hyd yn oed os nad ydych erioed wedi gwneud chwaraeon cyn neu hyd yn oed os ydych yn edrych ar drosglwyddo i un newydd.

Rydym am i chi gysylltu â ni drwy lenwi'r ffurflen #ysbrydoli:

Cwblhewch ffurflen #Ysbrydoli