Gemau Paralympaidd Haf PARIS 2024

Canlyniadau

Dewch i adnabod yr athletwyr

Rhwng nawr a dechrau’r Gemau Paralympaidd, byddwn yn rhannu cyfweliadau unigryw gyda’n Paralympiaid o Gymru:

Bonne Chance en France:

Darganfyddwch mwy am yr athletwyr o Gymru a fydd yn cynrychioli ParalympicsGB ym Mharis yr haf hwn:

Chwaraeon gyda chynrychiolaeth o Gymru ym Mharis 2024

Ewch i Gwefan ChAC

Profile of Harrison Walsh

Harrison Walsh

Chwaraeon

Athletau // F64 Discus

Dyddiad Geni

04 / 03 / 1996

O

Abertawe

Ymunodd Harrison â phara-athletau yn 2017, dwy flynedd ar ôl anaf i’w goes tra’n chwarae rygbi i Glwb Rygbi Abertawe a’i gadawodd heb unrhyw deimlad o dan ei ben-glin dde.

Roedd yn gyn chwaraewr rhyngwladol dan 18 Cymru a chwaraewr datblygu gyda’r Gweilch ac wedi mwynhau llwyddiant syfrdanol i’r brig ers hynny.

Gosododd Harrison “ar ddamwain” record byd newydd o 15.73 metr yn yr F44 yn Grand Prix Para Athletau’r Byd 2019 yn Grosseto, yr Eidal - yna, gan daflu’r ddisgen, enillodd efydd gyda PB 54.85 metr ar ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth Ewropeaidd WPA yn Bydgoszcz , Gwlad Pwyl yn 2021.

Fe wnaeth y chwaraewr 28 oed o’r Mwmbwls ei ymddangosiad cyntaf yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham yn 2022, gan ennill efydd yn y ddisgen F42-44.

Enillodd Harrison ei fedal Pencampwriaeth Byd gyntaf o’i yrfa yn gynharach eleni gydag efydd yn y ddisgen F64 yn Kobe, Japan – gyda thafliad olaf o 52.48 metr yn mynd ag ef i’r safle ennill medalau.

Nawr bydd Harrison yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Gemau Paralympaidd ym Mharis, ar ôl methu â chystadlu yn Tokyo oherwydd anaf i'w bigwrn.

Uchafbwyntiau Gyrfaoedd

Gemau'r Gymanwlad

  • 2022 - Efydd, F42-44 Discus (Birmingham)

Pencampwriaethau'r Byd

  • 2024 - Efydd, F64 Discus (Kobe, Japan)
  • 2023 – 5ed, F64 Discus (Paris, Ffrainc)

Pencampwriaethau Ewropeaidd

  • 2021 - Efydd, F64 Discus (Bydgoszcz, Gwlad Pwyl)

Twrnameintiau Mawr Eraill

  • 2019 - Record Shot Put newydd y byd F44 (15.73m), Grand Prix Athletau Para y Byd (Grosseto, yr Eidal).

Cymryd Rhan


Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan Harrison a diddordeb mewn darganfod mwy am sut i gymryd rhan mewn Athletau, ewch i:








#Ysbrydoli


Ydych chi erioed wedi meddwl am yr hyn y gallai eich potensial fod?

Ydych chi dros 9 oed, ac efo nam corfforol, synhwyraidd neu ddeallusol?


Os gallwch ateb yn gadarnhaol i bob un o'r cwestiynau hyn, yna byddai'r tîm Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru yn awyddus i glywed oddi wrthych.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi ymfalchïo ar ei lwyddiant mewn digwyddiadau chwaraeon anabledd mawr, gan ennill mwy o fedalau y pen nag unrhyw wlad arall, ac yr ydym am y llwyddiant i barhau, ond gall hyn ond digwydd drwy ddod o hyd y genhedlaeth nesaf o athletwyr talentog yn barhaus ac yn eu meithrin i gyrraedd eu llawn botensial. Ni fydd pawb sydd â nam eisiau fod yn athletwr gorau yn y byd, ond dylai pawb o leiaf cael y cyfle i roi cynnig.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru eisiau clywed gan bob unigolyn sy'n chwilio i gael gwybod beth y gallai eu potensial fod o fewn chwaraeon, hyd yn oed os nad ydych erioed wedi gwneud chwaraeon cyn neu hyd yn oed os ydych yn edrych ar drosglwyddo i un newydd.

Rydym am i chi gysylltu â ni drwy lenwi'r ffurflen #ysbrydoli:

Cwblhewch ffurflen #Ysbrydoli