Gemau Paralympaidd Haf PARIS 2024

Canlyniadau

Dewch i adnabod yr athletwyr

Rhwng nawr a dechrau’r Gemau Paralympaidd, byddwn yn rhannu cyfweliadau unigryw gyda’n Paralympiaid o Gymru:

Bonne Chance en France:

Darganfyddwch mwy am yr athletwyr o Gymru a fydd yn cynrychioli ParalympicsGB ym Mharis yr haf hwn:

Chwaraeon gyda chynrychiolaeth o Gymru ym Mharis 2024

Ewch i Gwefan ChAC

Profile of Beth Munro

Beth Munro

Chwaraeon

Taekwondo // K44

Dyddiad Geni

23 / 06 / 1993

Mae Beth yn enghraifft wych o'r manteision rhyfeddol y gall chwaraeon eu cynnig a pha mor effeithiol y gall digwyddiadau Cyfres insport SPAR a cyfleoedd Llwybr Perfformiad fod.

Ar ôl chwarae pêl-rwyd a thaflu’r waywffon, mynychodd Beth ddigwyddiad Cyfres insport aml-chwaraeon yn Conwy yn 2019.

Gwelwyd ei dawn gan y diweddar Anthony Hughes MBE, a anogodd Beth i symud i Gaerdydd a chymryd maintais ar cyfleoedd taekwondo. Heb roi cynnig ar grefft ymladd erioed o’r blaen, gwelodd ei gallu naturiol ac ei hymrwymiad a’i hymroddiad I ddod i’r brig.

Enillodd Beth aur yn ei chystadleuaeth ryngwladol gyntaf, sef twrnamaint Cymhwyster Olympaidd Taekwondo Ewropeaidd 2021 ym Mwlgaria, i sicrhau ei lle yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo.

Llai na dwy flynedd ar ôl dechrau yn y gamp, enillodd Beth fedal arian ar ei ymddangosiad Paralympaidd cyntaf – sef medal Taekwondo gyntaf y DU.

Ers hynny, mae Beth, rhif un y byd, wedi ennill teitlau Ewropeaidd gefn-wrth-gefn (2022 a ’23) ac wedi ennill arian ym Mhencampwriaethau’r Byd 2023.

Yn siaradwr ysgogol cyfareddol ac yn llysgennad anhygoel dros chwaraeon anabledd, mae gan Beth hefyd radd meistr mewn seicoleg iechyd.

Uchafbwyntiau Gyrfaoedd

Gemau Paralympaidd

  • 2020 - Arian, K44 -58kg (Tokyo, Japan)

Pencampwriaethau'r Byd

  • 2023 - Arian, K44 -58kg (Baku, Azerbaijan)

Pencampwriaethau Ewropeaidd

  • 2023 - Aur, K44 -58kg (Rotterdam, yr Iseldiroedd)
  • 2022 - Aur, K44 -58kg (Manceinion)
  • 2021 - Aur, Twrnamaint Cymhwyster Olympaidd Taekwondo Ewropeaidd (Bwlgaria)

Cymryd Rhan


Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan Beth a diddordeb mewn darganfod mwy am sut i gymryd rhan mewn Taekwondo, ewch i:








#Ysbrydoli


Ydych chi erioed wedi meddwl am yr hyn y gallai eich potensial fod?

Ydych chi dros 9 oed, ac efo nam corfforol, synhwyraidd neu ddeallusol?


Os gallwch ateb yn gadarnhaol i bob un o'r cwestiynau hyn, yna byddai'r tîm Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru yn awyddus i glywed oddi wrthych.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi ymfalchïo ar ei lwyddiant mewn digwyddiadau chwaraeon anabledd mawr, gan ennill mwy o fedalau y pen nag unrhyw wlad arall, ac yr ydym am y llwyddiant i barhau, ond gall hyn ond digwydd drwy ddod o hyd y genhedlaeth nesaf o athletwyr talentog yn barhaus ac yn eu meithrin i gyrraedd eu llawn botensial. Ni fydd pawb sydd â nam eisiau fod yn athletwr gorau yn y byd, ond dylai pawb o leiaf cael y cyfle i roi cynnig.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru eisiau clywed gan bob unigolyn sy'n chwilio i gael gwybod beth y gallai eu potensial fod o fewn chwaraeon, hyd yn oed os nad ydych erioed wedi gwneud chwaraeon cyn neu hyd yn oed os ydych yn edrych ar drosglwyddo i un newydd.

Rydym am i chi gysylltu â ni drwy lenwi'r ffurflen #ysbrydoli:

Cwblhewch ffurflen #Ysbrydoli