Gemau Paralympaidd Haf PARIS 2024

Canlyniadau

Dewch i adnabod yr athletwyr

Rhwng nawr a dechrau’r Gemau Paralympaidd, byddwn yn rhannu cyfweliadau unigryw gyda’n Paralympiaid o Gymru:

Bonne Chance en France:

Darganfyddwch mwy am yr athletwyr o Gymru a fydd yn cynrychioli ParalympicsGB ym Mharis yr haf hwn:

Chwaraeon gyda chynrychiolaeth o Gymru ym Mharis 2024

Ewch i Gwefan ChAC

Profile of Benjamin Pritchard

Benjamin Pritchard

Chwaraeon

Rhwyfo // PR1 M1x

Dyddiad Geni

15 / 03 / 1992

O

Abertawe

Yn tyfu i fyny ar Benrhyn Gŵyr, datblygodd Ben ei fantais gystadleuol trwy ddysgu hwylio yng Nghlwb Hwylio'r Mwmbwls. Datblygodd hyn yn angerdd a gallu am feicio a thriathlon cyn i ddamwain yn 2016 ei barlysu o gawell yr asennau i lawr.

Gan ddechrau rhwyfo am y tro cyntaf yn ystod adsefydlu yn Ysbyty Stoke Mandeville, roedd Ben wrth ei fodd â’r rhyddid a roddodd rhwyfo iddo, ynghyd â’r cyfle i gystadlu. Ac yn sicr ni chafodd yr ysgogiad a’r penderfyniad hwn eu hanwybyddu gan Rhwyfo Prydain, oherwydd yn 2017 ymunodd â’r Sgwad Datblygu Para.

Gan wneud ymddangosiad rhyngwladol am y tro cyntaf i Dîm Rhwyfo Prydain Fawr yn 2019, enillodd Ben ddwy fedal efydd yn Regata Rhyngwladol Gavirate yn yr Eidal cyn sicrhau efydd arall ar ei gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd yng Ngwlad Pwyl ac yna colli allan o drwch blewyn ar fedal gyda phedwerydd yn y Pencampwriaethau Byd yn Awstria.

Gorffennodd Ben yn bumed yn sengl y dynion PR1 lle roedd y cystadlu’n brwd yn ei gêm gyntaf yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo ac ers hynny mae wedi datblygu i fod yn enillydd medalau cyson, gan ennill dwy fedal efydd ym Mhencampwriaeth y Byd yn 2022 a 2023.

Ac yn ei gystadleuaeth olaf cyn Paris, enillodd Ben fedal aur ei yrfa gyntaf yng Nghwpan Rhwyfo’r Byd yn Poznan, Gwlad Pwyl – hyd yn oed yn fwy addas o ystyried mai dyma’r man cychwyn ar ei yrfa rwyfo rhyngwladol.

Uchafbwyntiau Gyrfaoedd

Gemau Paralympaidd

  • 2021 - 5ed, Scwl sengl dynion PR1 (Tokyo, Japan)

Pencampwriaethau'r Byd

  • 2023 - Efydd, Scwl sengl dynion PR1 (Belgrade, Serbia)
  • 2022 - Efydd, Scwl sengl dynion PR1 (Račice, Gweriniaeth Tsiec)
  • 2019 - 4ydd, Scwl sengl dynion PR1 (Ottensheim, Awstria)

Cwpan y Byd

  • 2024 - Aur, Scwl sengl dynion PR1 (Poznan, Gwlad Pwyl)
  • 2022 - Arian, Scwl sengl dynion PR1 (Belgrade, Serbia)
  • 2019 - Efydd, Scwl sengl dynion PR1 (Poznan, Gwlad Pwyl)

Pencampwriaethau Ewropeaidd

  • 2024 - Efydd, Scwl sengl dynion PR1 (Szeged, Hwngari)
  • 2022 - Efydd, Scwl sengl dynion PR1 (Munich, yr Almaen)
  • 2021 - Arian, Scwl sengl dynion PR1 (Varese, yr Eidal)

Cymryd Rhan


Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan Benjamin a diddordeb mewn darganfod mwy am sut i gymryd rhan mewn Rhwyfo, ewch i:








#Ysbrydoli


Ydych chi erioed wedi meddwl am yr hyn y gallai eich potensial fod?

Ydych chi dros 9 oed, ac efo nam corfforol, synhwyraidd neu ddeallusol?


Os gallwch ateb yn gadarnhaol i bob un o'r cwestiynau hyn, yna byddai'r tîm Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru yn awyddus i glywed oddi wrthych.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi ymfalchïo ar ei lwyddiant mewn digwyddiadau chwaraeon anabledd mawr, gan ennill mwy o fedalau y pen nag unrhyw wlad arall, ac yr ydym am y llwyddiant i barhau, ond gall hyn ond digwydd drwy ddod o hyd y genhedlaeth nesaf o athletwyr talentog yn barhaus ac yn eu meithrin i gyrraedd eu llawn botensial. Ni fydd pawb sydd â nam eisiau fod yn athletwr gorau yn y byd, ond dylai pawb o leiaf cael y cyfle i roi cynnig.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru eisiau clywed gan bob unigolyn sy'n chwilio i gael gwybod beth y gallai eu potensial fod o fewn chwaraeon, hyd yn oed os nad ydych erioed wedi gwneud chwaraeon cyn neu hyd yn oed os ydych yn edrych ar drosglwyddo i un newydd.

Rydym am i chi gysylltu â ni drwy lenwi'r ffurflen #ysbrydoli:

Cwblhewch ffurflen #Ysbrydoli